Mohammed Morsi
Mae llys yn yr Aifft wedi dedfrydu’r cyn Arlywydd Mohammed Morsi i farwolaeth am ei ran mewn cynllun i ddianc o garchar yn ystod y gwrthryfel yn 2011 pan gafodd Hosni Mubarak ei ddisodli.

Mae’r barnwr Shaaban el-Shami wedi cyfeirio’r ddedfryd at arweinwyr crefyddol y wlad, fel sy’n arferol wrth gyhoeddi dedfryd o farwolaeth. Fe fydd y gwrandawiad nesaf ar 2 Mehefin.

Cafodd Morsi, yr arlywydd etholedig  cyntaf yn yr Aifft, ei ddisodli gan y fyddin ym mis Gorffennaf 2013 yn dilyn dyddiau o brotestiadau gan bobl yr Aifft. Roedden nhw’n galw arno i roi’r gorau i’w swydd oherwydd ei bolisïau amhoblogaidd.

Cafodd ei olynu gan gyn bennaeth byddin yr Aifft, Abdel-Fattah el-Sissi, a gafodd ei ethol y llynedd.

Mae 105 o ddiffynyddion eraill, ynghyd a Morsi, wedi cael eu dedfrydu i farwolaeth. Maen nhw’n cynnwys tua 70 o Balestiniaid.

Roedd yr erlyniad wedi honni bod aelodau o’r grŵp Palestinaidd Hamas wedi llwyddo i ddod i mewn i’r Aifft drwy dwnelau cudd yn ystod y gwrthdaro. Roedden nhw wedi cymryd mantais o’r anhrefn yn y wlad i gael mynediad i nifer o garchardai a rhyddhau Morsi, mwy na 30 o arweinwyr y Frawdoliaeth Fwslimaidd a tua 20,000 o garcharorion, yn ôl yr erlyniad.

Cafodd nifer o swyddogion carchar eu lladd a rhannau o’r carchardai eu difrodi.

Roedd Morsi eisoes wedi cael ei ddedfrydu i 20 mlynedd o garchar ar ôl ei gael yn euog ar 21 Ebrill o gyhuddiadau’n ymwneud a lladd protestwyr tu allan i’r palas arlywyddol yn Cairo ym mis Rhagfyr 2012.

Fe fydd Morsi yn cael apelio yn erbyn ei ddedfryd o farwolaeth.