George Osborne
Mae George Osborne wedi cyhoeddi y bydd ail Gyllideb eleni ar 8 Gorffennaf.

Dywed y Canghellor y bydd y pecyn ariannol yn canolbwyntio ar “bobl sy’n gweithio” gan wireddu addewidion y Ceidwadwyr.

Fe wnaeth George Osborne ei gyhoeddiad mewn erthygl yn The Sun gan ddweud: “Ar 8 Gorffennaf rwyf am gymryd y cam anarferol o gael ail Gyllideb – oherwydd dydw i ddim eisiau aros cyn gwireddu’r addewidion a wnaed yn yr etholiad.”