Mae disgwyl i gannoedd o aelodau o Sefydliad y Merched (SYM) o bob cwr o Gymru ddod ynghyd ym Miwmares yn Ynys Môn heddiw fel rhan o ddathliadau 100 mlynedd ers sefydlu’r mudiad.

Cafodd cangen gyntaf Prydeinig SYM ei sefydlu yn Ynys Môn, a bydd yr Arddangosfa Canmlwyddiant yn dod a’r gwaith mae’r mudiad wedi ei wneud yn ystod pob degawd o’i ganmlwyddiant yn fyw gan roi darlun o’r dylanwad mae wedi cael ar gymunedau dros y wlad.

Bydd yn cynnwys 13 panel – pob un wedi ei gynllunio gan ffederasiwn –  ac yn canolbwyntio ar gyfnod yn hanes Sefydliad y Merched.

Bydd storïau digidol gydag atgofion, agweddau, teimladau a phrofiadau aelodau SYM hefyd yn ffurfio rhan o’r arddangosfa.

‘Ysbrydoli merched’

Dywedodd Ann Jones, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yng Nghymru bod yr arddangosfa yn “ffordd wych i Sefydliad y Merched yng Nghymru i gychwyn y dathliadau o 100 mlynedd o ysbrydoli merched, gan ddod a’r cyfraniad a’r dylanwad mae SYM wedi cael ar gymunedau a’r wlad dros y 100 mlynedd diwethaf yn fyw.”

Bydd yr arddangosfa yn teithio drwy Gymru ar ôl y lansiad yn Ynys Môn a bydd yn cael ei harddangos yn Sioe Amaethyddol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chynhadledd Flynyddol FfCSYM-Cymru yn Neuadd Dewi Sant ym mis Medi.

Mae Arddangosfa Canmlwyddiant SYM i’w gweld yng Ngwesty’r Bulkeley, Biwmares heddiw ac yfory (16 a 17 Mai).