Mae wyth o bobl wedi marw a dau wedi’u hanfu ar ôl i gemegolion ollwng o ffatri yng ngogledd China.

Roedd carbon deusylffid wedi gollwng o ffatri yn perthyn i’r cwmni cemegolion Ruixing, yn ôl yr awdurdodau yn Sir Yangcheng yn nhalaith Shanxi.

Dywedodd bod tri o weithwyr achub hefyd yn cael eu goruchwylio.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y ddamwain.