Chuka Umunna
Fe fydd yr ymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur yn annerch aelodau’r blaid mewn cyfarfod yn Llundain heddiw.

Mae’n dilyn penderfyniad y ffefryn i olynu Ed Miliband, Chuka Umunna, i dynnu allan o’r ras ddoe.

Fe fydd yr ymgeiswyr Andy Burnham, Yvette Cooper, Mary Creagh a Liz Kendall yn annerch yr aelodau yng nghynhadledd y  blaid.

Mae disgwyl i Tristram Hunt hefyd gyhoeddi y bydd yn ceisio am yr arweinyddiaeth.

Roedd cyhoeddiad Chuka Umunna ddoe wedi bod yn sioc i’r blaid. Fe ymddiswyddodd Ed Miliband yn sgil canlyniadau trychinebus Llafur yn yr etholiad cyffredinol.