Jim Murphy
Fe fydd dyfodol arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Jim Murphy, yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod o weithgor y blaid heddiw.

Mae’n dilyn cyfres o alwadau arno i ymddiswyddo yn dilyn canlyniadau trychinebus Llafur yn yr Alban yn yr etholiad cyffredinol.

Yn ôl pob tebyg, mae ’na rwyg o fewn y blaid gyda nifer o ASau yn amddiffyn Jim Murphy gan ddadlau bod problemau Llafur wedi dod i’r amlwg cyn iddo ddod yn arweinydd, ac nad oedd modd mynd i’r afael a nhw o fewn ychydig fisoedd.