Cymorth dyngarol yn cyrraedd maes awyr Kathmandu yn Nepal
Mae cyrff wyth o filwyr fu farw mewn damwain hofrennydd wrth geisio cludo cymorth dyngarol yn Nepal wedi’r daeargryn yno, wedi cael eu darganfod.

Mae swyddogion milwrol o luoedd Nepal a’r Unol Daleithiau yn dweud bod y cyrff wedi cael eu cludo o safle’r ddamwain yn y mynyddoedd i’r gogledd ddwyrain o’r brifddinas Kathmandu.

Cafodd gweddillion yr hofrennydd eu gweld gan filwyr Nepal a hofrenyddion y fyddin ddoe yn dilyn dyddiau o chwilio. Fe ddiflannodd yr hofrennydd wrth gludo cymorth dyngarol ddydd Mawrth.

Roedd chwe aelod o Forlu’r Unol Daleithiau a dau filwr o Nepal ar fwrdd yr hofrennydd ar y pryd.

Nid yw’r cyrff wedi cael eu hadnabod yn swyddogol hyd yn hyn. Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod beth achosodd y ddamwain.