Douglas Carswell
Mae unig Aelod Seneddol Ukip wedi annog yr arweinydd Nigel Farage i “gymryd seibiant” yn dilyn ffrae dros ddyfodol y blaid.

Dywedodd Douglas Carswell ei fod yn “edmygu” Nigel Farage ac mae wedi diystyru awgrymiadau ei fod yn ceisio am y swydd ei hun.

Ond mae wedi annog y blaid i beidio â chymryd “penderfyniadau mawr” ynglŷn â’r arweinyddiaeth yn dilyn ymgyrch anodd y blaid yn yr etholiad cyffredinol.