Ffoaduriaid yn cael eu hachub gan wylwyr y glannau yn yr Eidal
Mae Prydain wedi dweud y bydd yn herio cynlluniau’r Comisiwn Ewropeaidd i orfodi ei aelodau i roi lloches i ffoaduriaid.

Daw cynlluniau Brwsel ar ôl i gannoedd o bobl o Libya foddi ger arfordir yr Eidal. Fe fyddai’r cynlluniau yn golygu bod yn rhaid i aelodau’r UE roi lloches i gyfran o’r ffoaduriaid yn seiliedig ar ffactorau economaidd a chymdeithasol.

Fe fyddai gweithdrefnau brys yn dod i rym erbyn diwedd y mis gan olygu y byddai’n rhaid i Brydain a 27 aelod arall yr UE i wneud “cyfraniad teg a chytbwys” er mwyn rhoi lloches i “bobl sydd, yn amlwg, angen cymorth rhyngwladol,” yn ôl adroddiadau.