Dan Jarvis
Fe fydd Aelodau Seneddol y Blaid Lafur yn cwrdd am y tro cyntaf ers eu canlyniadau trychinebus yn yr etholiad cyffredinol wythnos ddiwethaf.

Mae un o’r ffefrynnau i olynu’r arweinydd Ed Miliband, a oedd wedi ymddiswyddo o fewn oriau ar ôl yr etholiad, wedi dweud na fydd yn ymuno yn y ras i’w olynu.

Roedd y cyn-filwr Dan Jarvis yn cael ei weld fel yr ymgeisydd delfrydol i olynu Ed Miliband ond mae wedi dweud ei fod eisiau helpu i adfer y blaid ond ei fod am roi ei blant yn gyntaf cyn ei yrfa wleidyddol.

Liz Kendall yw’r unig un sydd wedi cyhoeddi ei bod am ymgeisio am y swydd. Mae disgwyl i Chuka Umunna a Tristram Hunt hefyd gyhoeddi am eu bod am ymgeisio hefyd. Maen nhw i gyd wedi rhybuddio bod angen agwedd mwy uchelgeisiol os am fod ag unrhyw obaith o herio’r Ceidwadwyr yn 2020.