David Cameron
Fe fydd David Cameron yn parhau i enwi aelodau eraill ei lywodraeth yr wythnos hon ar ôl iddo gyhoeddi prif aelodau ei Gabinet dros y penwythnos.

Fe fydd Iain Duncan Smith yn parhau yn ei swydd fel yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau gan fod yn gyfrifol am ddiwygiadau dadleuol i fudd-daliadau. Mae’r Ceidwadwyr yn bwriadu gwneud toriadau o £12 biliwn arall i daliadau lles.

Mae’n un o nifer o aelodau blaenllaw’r Cabinet sy’n cadw eu swyddi gan gynnwys y Canghellor George Osborne, yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May, yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond, yr Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan a’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon.

Mae Michael Gove yn dychwelyd i’r Cabinet fel Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Cyfiawnder, tra bod Chris Grayling yn dod yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin.

Mae Amber Rudd wedi cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd.

Mae disgwyl i nifer o Aelodau Seneddol benywaidd gan gynnwys Priti Patel, Anna Soubry, ac Andrea Leadsom  gael eu dyrchafu ar ôl i’r Prif Weinidog ddweud ei fod eisiau o leiaf traean o aelodau’r Cabinet i fod yn fenywod.

Mae ’na ddyfalu hefyd y gallai Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb hefyd gael ei ddyrchafu.

Fe gyhoeddodd David Cameron y bore ma y bydd Boris Johnson yn aelod o’i Gabinet wleidyddol ond na fydd yn cael ei wneud yn weinidog, wrth iddo gwblhau ei flwyddyn olaf fel Maer Llundain.

Pwyllgor 1922

Y bore ma fe fydd David Cameron yn annerch pwyllgor dylanwadol o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr. Mae disgwyl iddo ddweud wrth Bwyllgor 1922 y bydd Llywodraeth fwyafrifol y Ceidwadwyr yn ceisio adfer “tegwch i’n cymdeithas.”

Roedd ymgais David Cameron i gwtogi ar bwerau’r pwyllgor ar ol yr etholiad yn 2010 wedi suro’r berthynas rhwng y Prif Weinidog a’i ASau. Y tro hwn, roedd cadeirydd y pwyllgor dynlanwadol, Graham Brady, ymhlith y rhai cyntaf iddo gwrdd â nhw ar ol ei fuddugoliaeth yn yr etholiad cyffredinol.

Gyda mwyafrif bychan o 12 yn unig yn Nhŷ’r Cyffredin ac Ewrop ar frig yr agenda, fe fydd y Prif Weinidog yn ceisio manteisio ar ei fuddugoliaeth i gael cefnogaeth aelodau’r pwyllgor.