Mae nifer o bobol wedi cael eu saethu’n farw mewn tŷ yn Y Swistir.
Cafodd yr heddlu eu galw gan drigolion yn nhref Wuerenlingen ar ôl iddyn nhw glywed dryll yn cael ei danio.
Daeth yr heddlu o hyd i nifer o gyrff yn y tŷ ac maen nhw’n ymchwilio i’r digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu mai oedolion yw’r holl bobol fu farw.