Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi cyhoeddi rhagor o benodiadau i’w Gabinet newydd.

Mae’r cyn-Brif Chwip, Michael Gove wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Cyfiawnder ac yn Arglwydd Ganghellor.

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling yn symud i fod yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin.

Bydd Nicky Morgan yn parhau’n Ysgrifennydd Addysg, gyda nifer o arbenigwyr yn dweud bod hynny’n arwydd o’i pherfformiad ers disodli Gove yn y senedd diwethaf.

Pan gafodd Gove ei symud i fod yn Brif Chwip yn y Senedd diwethaf, roedd yn ymddangos ei fod wedi cael ei symud i swydd lai pwysig oherwydd ei fod wedi gwenud gormod o elynion yn y byd addysg.

Mae disgwyl i Nicky Morgan barhau i gyflwyno diwygiadau yn y byd addysg, gan gynnwys cynyddu nifer yr academïau.

Bydd Chris Grayling bellach yn gyfrifol am ddiwygio’r Cyfansoddiad ac am sicrhau rhagor o bwerau i’r Alban, yn ogystal â sefydlu egwyddor ‘pleidleisiau Seisnig ar gyfer cyfreithiau Seisinig’.

Dywedodd Grayling wrth bapur newydd y Sunday Telegraph: “Byddwn yn cadw at ein haddewid o greu’r llywodraeth ddatganoledig gryfaf yn unrhyw le yn y byd i’r Alban.”

Ond dywedodd fod sicrhau tegwch i Loegr hefyd yn flaenoriaeth.

Mae’r Gweinidog Pobol Anabl, Mark Harper yn symud i fod yn Brif Chwip.