Mae undebau llafur Aslef ac Uno’r Undeb wedi galw ar arweinydd Plaid Lafur yr Alban, Jim Murphy i ymddiswyddo.

Dywed yr undebau ei bod hi’n “bryd cael newid” yn dilyn canlyniadau trychinebau’r blaid yn etholiadau San Steffan ddydd Iau.

Collodd Llafur bob sedd ond un yn yr Alban ond hyd yma, mae Murphy wedi gwrthod ymddiswyddo.

Dywedodd arweinydd Uno’r Undeb yn yr Alban, Pat Rafferty: “Mae’n bryd cael newid o fewn Plaid Lafur yr Alban.

“Dyna’r neges ysgubol, digamsyniol gan bobol yr Alban, gan gynnwys aelodau ei hundebau llafur ddydd Iau.

“Yn wir, aeth heibio’r amser am newid.

“Mae Llafur yn yr Alban wedi bod yn colli cefnogaeth a hygrededd ers blynyddoedd.

“Ar un mater ar ôl y llall – amgyffred ‘Blairiaeth’, gwrthwynebu ail gwestiwn ‘devomax’ yn y refferendwm y llynedd, y penderfyniad i ymgyrchu gyda’r Torïaid yn ymgyrch amheus Better Together, a’r etholiad ar gyfer arweinydd newydd y llynedd – mae Uno’r Undeb wedi rhybuddio ynghylch dilyn trywydd y mae’r blaid wedi’i ddilyn ac mae hynny, o’r diwedd, wedi cael ei brofi.

“Pris anwybyddu’r fath rybuddion oedd i Lafur yr Alban gael ei dileu bron yn llwyr o San Steffan.”

Ychwanegodd trefnydd Aslef yn yr Alban, Kevin Lindsay: “Mae Jim Murphy wedi tra-arglwyddiaethu tros y golled waethaf mewn etholiad yn yr Alban yn hanes y Blaid Lafur.

“Rhaid iddo fynd – a rhaid iddo fynd nawr.

“Mae Ed Miliband, Harriet Harman, Nick Clegg a hyd yn oed Nigel Farage wedi camu o’r neilltu, gan gymryd cyfrifoldeb a derbyn canlyniadau eu pleidiau’n colli yn yr etholiad.

“Mae’n amlwg i nifer ohonom ym Mhlaid Lafur yr Alban, felly, beth yw’r peth cywir i Jim Murphy ei wneud.”

‘Ateb her’

Mewn araith i’w blaid ddoe, dywedodd Jim Murphy: “Wnes i ddim sefyll i fod yn arweinydd y blaid oherwydd uchelgais personol. Fe wnes i sefyll oherwydd ro’n i’n gwybod wedi colli yn 2007 a 2011 ac wedi emosiwn y refferendwm fod Llafur yr Alban yn wynebu’r her fwyaf yn ein 127 o flynyddoedd o hanes.

“Fel arweinydd, ro’n i am ateb yr her honno, ac rwy am wneud hynny o hyd.”

Aelod Cabinet wedi ymddiswyddo

Yn y cyfamser, mae’r dyn gafodd ei guro gan Jim Murphy i fod yn arweinydd y blaid y llynedd wedi ymddiswyddo o Gabinet cysgodol yr Alban.

Wrth gyhoeddi’i ymddiswyddiad, dywedodd Neil Findlay ei fod yn rhoi’r gorau iddi yn sgil “trychineb” y blaid yn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd fod gwendidau’r blaid yn “eang ac yn ddwfn” a bod angen “atebion radical” er mwyn codi’r blaid unwaith eto.

Dywedodd ei fod yn awyddus i fod yn rhan o adfywiad y blaid ond mai’r unig ffordd o wneud hynny oedd trwy fod yn “rhydd rhag cyfyngiadau” bod yn aelod o’r Cabinet cysgodol.

Fe fu Findlay yn gyfrifol am waith, sgiliau a hyfforddiant yn y Cabinet cysgodol.