Mae UKIP wedi cipio grym tros gyngor etholaeth De Thanet, lle collodd arweinydd y blaid, Nigel Farage yn etholiad San Steffan ddydd Iau.

Cyn i’r holl ganlyniadau terfynol gael eu cyhoeddi, roedd UKIP eisoes wedi sicrhau 31 allan o 56 o seddi’r cynghorwyr.

Mae llwyddiannau sylweddol wedi bod i’r Ceidwadwyr ar draws nifer o gynghorau lleol trwy Brydain yn yr etholiadau diweddraf, tra bod Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli ar y cyfan.

Cyn etholiad San Steffan, roedd Nigel Farage wedi awgrymu y byddai’n rhoi’r gorau i fod yn arweinydd ei blaid pe na bai’n ennill ei sedd.

Y Ceidwadwr Craig Mackinlay oedd yn fuddugol, gan drechu Farage o 2,822 o bleidleisiau.

Ond roedd canran pleidleisiau’r Ceidwadwyr i lawr 9.8% i 38.1%.

Roedd canran pleidleisiau UKIP i fyny 26.9% i 32.4%.