Mae cannoedd o weithwyr Tata Steel wedi bod mewn rali ym Mhort Talbot yn dilyn ffrae tros gynlluniau pensiynau’r gweithwyr.

Yn unol â’r cynlluniau sydd wedi cael eu datgelu gan y cwmni, byddai gofyn i weithwyr barhau yn eu gwaith tan eu bod nhw’n 65 oed, yn hytrach na’r 60 oed presennol.

Mae’r cwmni’n cyflogi 7,000 o weithwyr ar draws pedwar o safleoedd ym Mhort Talbot, Casnewydd, Sir y Fflint a Sir Gaerfyrddin.

Mae’r gweithwyr yn ystyried gweithredu’n ddiwydiannol.

Ar ei thudalen Twitter, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Dde Orllewin Cymru, Bethan Jenkins: “Rali pensiynau Tata steel. 2 wleidydd llafur ar y panel. Dywedwyd wrtha i nad oedd lle yn y brif neuadd. Dyna’r parch rwy’n cael!”

Mewn trydariad arall, ychwanegodd: “Rhaid i fi gerdded allan o undeb llafur tata. Gwrthodwyd i fi ofyn cwestiwn hyd yn oed. Rwy mewn gwirionedd yn byw mewn unbennaeth #aberafan”.

Mewn sgwrs bellach ar ei thudalen Twitter, ychwanegodd Bethan Jenkins fod nifer o wleidyddion Llafur wedi cael cydnabyddiaeth am eu cefnogaeth ond nad oedd hithau wedi cael yr un gydnabyddiaeth.

Dywedodd yn ystod y sgwrs ar Twitter ei bod hi’n gynrychiolydd etholedig a bod y sefyllfa wedi’i digalonni.