Charles Kennedy yn un o'r 10 a gollodd eu seddi
Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, Willie Rennie wedi dweud bod ei blaid yn “ffyddiog ar gyfer y dyfodol” a bod etholiadau Holyrood y flwyddyn nesaf yn gyfle i’r blaid dyfu.

Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol 10 o seddi allan o 11 yn San Steffan wrth i’r SNP greu daeargryn gwleidyddol yn yr Alban.

Bellach, 56 o seddi sydd gan yr SNP yn San Steffan.

Roedd cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Charles Kennedy a chyn-Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander ymhlith y rhai amlycaf i golli eu seddi ar noson drychinebus i’r blaid trwy wledydd Prydain.

Dywedodd Willie Rennie: “Mae ein gwledigaeth ar gyfer yr Alban yn un obeithiol ar gyfer y dyfodol, wedi’i seilio ar gyfleoedd a rhyddid i bawb. Mae’n brosbectws positif.

“Flwyddyn i nawr, mae gennym gyfle i dyfu. Mae’r ymgyrch etholiadol yn yr Alban yn dechrau heddiw.

“Mae’r Alban wedi colli cewri rhyddfrydol. Roedd ein haelodau seneddol yn bencampwyr lleol a chanddyn nhw leisiau rhyddfrydol cryf. Fe wnaethon nhw gyfoethogi’r ddadl wleidyddol yn ein gwlad.

Ond mae 2,000 o aelodau newydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol trwy holl wledydd Prydain ers yr etholiad, yn ôl y blaid.

Mae’n ddyletswydd ar y blaid, meddai Rennie, i sicrhau bod gwerthoedd rhyddfrydol yn cael eu hyrwyddo er lles yr aelodau newydd.

“Mae’r ddyletswydd yn bwysicach fyth yn wyneb mwyafrif y Ceidwadwyr yn San Steffan, sydd eisoes yn bwriadu ail-gyflwyno’r Siartr Fusnesa y gwnaethon ni ei gwrthod yn San Steffan.

“Ac yn Senedd yr Alban mae’r gwaith yn parhau o ran yr agenda canoli a gwrth-ryddfrydol sydd gan yr SNP.

“Fe ddysgwn ni wersi a neges canlyniad yr etholiad.

“Fe fu’n ergyd i’n plaid ond mae’r ffaith fod 2,000 o aelodau newydd wedi ymuno â’r blaid mewn un diwrnod yn unig yn arwydd o obaith i fi.”