Mae ymddiriedolaeth iechyd wedi ymddiheuro ar ôl iddyn nhw anfon taflenni gwybodaeth allan at 850 o gleifion oedd yn awgrymu bod ganddyn nhw ganser.
Roedd Ymddiriedolaeth GIG Dwyrain Swydd Sussex wedi rhoi’r taflenni y tu fewn i lythyron a gafodd eu hanfon allan ym mis Mawrth.
Roedd y daflen wybodaeth yn awgrymu bod y cleifion wedi cael eu dargyfeirio am apwyntiad brys yn sgil eu symtomau.
Dywed yr ymddiriedolaeth mai gwall gweinyddol oedd yn gyfrifol.
Dywedodd llefarydd: “Rydym wedi ysgrifennu ac ymddiheuro wrth bawb a dderbyniodd y daflen wybodaeth anghywir i gleifion gyda’u llythyr apwyntiad gan yr ysbyty.
“Roedd yna wall gweinyddol ac rydym yn ymddiheuro unwaith eto am unrhyw bryder di-angen a gafodd ei achosi gan y gwall.”
Ychwanegodd fod cwmni allanol yn argraffu’r taflenni gwybodaeth ac yn anfon y llythyron at gleifion.