Mae criw awyren filwrol wedi cael eu lladd ar ôl plymio i’r ddaear ger maes awyr Seville yn Sbaen.

Roedd hyd at 10 o bobol ar yr awyren Airbus A400M yn ystod y profion hedfan ger y maes awyr.

Dywedodd awdurdod meysydd awyr Sbaen, AENA fod y maes awyr ar gau wrth i ddiffoddwyr tân ymdrin â’r digwyddiad.

Mae hediadau i Seville wedi cael eu dargyfeirio i Malaga a Jerez am y tro.