Hosni Mubarak
Mae cyn-Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak wedi cael ei garcharu am dair blynedd am dwyll.

Daw’r dyfarniad ar ddiwedd ail achos llys yn Cairo yn erbyn y dyn 87 oed a gafodd ei ddisodli fel arweinydd ei wlad yn 2011.

Dydy hi ddim yn glir eto a yw’r ddedfryd yn cynnwys yr amser a dreuliodd dan glo eisoes.

Roedd Mubarak wedi’i gyhuddo o gael arian gan y wladwriaeth trwy dwyll dros gyfnod o ddegawdau.

Roedd yr arian i fod i gael ei ddefnyddio er mwyn cynnal a chadw adeiladau swyddogol yr arlywyddiaeth, ond fe gafodd ei ddefnyddio yn hytrach i gynnal a chadw eiddo personol Mubarak a’i deulu.

Roedd meibion Mubarak eisoes wedi’u dedfrydu i bedair blynedd dan glo.