Isaac Nash
Mae taith feicio yn cael ei chynnal dros y penwythnos er cof am fachgen 12 oed a gafodd ei sgubo i’r môr yn Ynys Môn.

Roedd Isaac Nash, o Huddersfield, Swydd Efrog ar wyliau gyda’i deulu pan gafodd ef a’i frawd, Xander, 10, eu llusgo i’r môr gan donnau garw ger Aberffraw ar 29 Awst y llynedd.

Fe lwyddodd ei dad, Adam Nash, i achub Xander ond nid oedd wedi gallu achub Isaac oherwydd y cerrynt cryf.

Er gwaethaf ymdrechion i chwilio amdano, nid yw Gwylwyr y Glannau a Heddlu Gogledd Cymru wedi llwyddo i ddod o hyd i’w gorff.

Mae tua 65 o feicwyr yn cymryd rhan yn y daith 140 milltir o’i gartref yn Highburton, Gorllewin Swydd Efrog i Ynys Môn. Yn eu plith mae rhieni Isaac, Zoe ac Adam Nash.

Y gobaith yw codi £100,000 er mwyn adeiladu parc sglefrio yn Highburton er cof am Isaac.

Roedd cwest i’w farwolaeth yn gynharach eleni wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth drwy anffawd.