Mae 40 o garcharorion wedi dianc o garchar yn nwyrain Irac yn dilyn ymosodiad lle cafodd chwech o swyddogion yr heddlu a 30 o garcharorion eu lladd.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Irac, Saad Maan, bod ffrae wedi dechrau rhwng y carcharorion yng ngharchar Khalis yn nhalaith Diyala.
Pan aeth swyddogion y carchar i ymchwilio i’r digwyddiad roedd y carcharorion wedi ymosod arnyn nhw gan gymryd eu harfau.
Dywedodd Saad Maan bod rhai o’r carcharorion a oedd wedi dianc wedi wynebu cyhuddiadau’n ymwneud a brawychiaeth.
Mae cannoedd o garcharorion yn y carchar.