Katherine Jenkins
Fe fydd clychau eglwysi’n canu ar draws Prydain heddiw wrth i’r digwyddiadau i nodi 70 mlynedd ers Diwrnod VE barhau.
Am 11 y bore ma fe fydd clychau mewn eglwysi yn canu i nodi’r cyhoeddiad bod yr Ail Ryfel Byd wedi dod i ben.
Yn ddiweddarach fe fydd cyngerdd yn cael ei gynnal yn Llundain gyda pherfformiadau gan Katherine Jenkins, Pixie Lott, Status Quo a chyplau o Strictly Come Dancing.
Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cynrychioli Cymru mewn gwasanaeth arbennig yn Abaty Westminster.
Yng Nghymru fe fydd cestyll Conwy, Dinbych a Chaerdydd yn cael eu goleuo fel rhan o’r dathliadau.