Senedd Gwlad Groeg
Mae Gweinidog Cyllid Gwlad Groeg yn cyfarfod a swyddogion Ewropeaidd ym Mharis a Brwsel wrth i’r wlad geisio rhyddhau arian i dalu ei dyledion.

Fe wnaeth Yanis Varoufakis gyfarfod a Gweinidog Cyllid Ffrainc, Michel Sapin, y bore yma ac mae’n mynd i drafodaethau gyda Chomisiynydd Materion Economaidd yr Undeb Ewropeaidd, Pierre Moscovici, ym Mrwsel yn ddiweddarach heddiw.

Yn y cyfamser, mae disgwyl i Ddirprwy Brif Weinidog Gwlad Groeg, Yannis Dragasakis, gwrdd â Llywydd Banc Canolog Ewrop Mario Draghi yn Frankfurt.

Mae llywodraeth Gwlad Groeg yn cael trafferth cyflwyno diwygiadau economaidd a mesurau cyllideb yn unol â gorchmynion eu credydwyr, er mwyn rhyddhau £5.3 biliwn o’r gronfa gan wledydd yr Ewro.

Heb yr arian hwnnw, gallai arian Gwlad Groeg ddod i ben a gall benderfynu gadael yr ewro.