Mae comisiynydd yr heddlu yn Ne Swydd Efrog wedi dweud nad oedden nhw wedi gweithredu ynglŷn ag achosion o ecsbloetio plant yn rhywiol am fod y merched yn cael eu hystyried yn buteiniaid.
Dywedodd Alan Billings, comisiynydd heddlu a throsedd De Swydd Efrog bod “popeth wedi mynd o’i le” gan fod yr heddlu ddim yn deall ei fod yn fater o gam-drin plant.
Daeth sylwadau Dr Billings ar ôl i adroddiadau gael eu cyhoeddi am y tro cyntaf yn datgelu bod yr heddlu wedi cael rhybudd tua 10 mlynedd yn ôl ynglŷn â’r broblem o ecsbloetio plant yn rhywiol yn y sir ond wedi gwneud dim am y peth.
Dywedodd Alan Billings wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Dwi’n credu ein bod ni wedi gweld y merched yma, nid fel dioddefwyr ond fel pobl ifanc trafferthus a oedd allan o reolaeth ac yn gweithredu o’u gwirfodd.
“Roedden ni’n eu hystyried fel achosion o buteindra ac nid cam-drin plant, ac rwy’n credu bod hynny wedi cael ei dderbyn yn gyffredinol a dyna pam fod popeth wedi mynd o’i le.”
Ychwanegodd Dr Billings fod yr heddlu wedi rhoi blaenoriaeth i fyrgleriaethau a dwyn ceir ar y pryd gan mae dyna oedd y cyhoedd ei eisiau.
Roedd adroddiad gan yr Athro Alexis Jay wedi ennyn ymateb chwyrn ym mis Awst y llynedd pan ddatgelwyd bod o leiaf 1,400 o blant wedi cael eu treisio, eu hecsbloetio a’u cam-drin yn Rotherham.
Roedd adolygiad pellach gan Louise Casey, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, wedi arwain at ymddiswyddiad holl aelodau cabinet y cyngor.