Mae diffoddwyr tân yn parhau i fod ar safle tân mewn canolfan ailgylchu yng Nghasnewydd.

Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw i safle ailgylchu’r cyngor ym Maesglas tua 5yh brynhawn ddoe.

Er bod chwe chriw wedi bod yno pan oedd y tân ar ei anterth, mae un criw yn dal i fod yno bore ma.