Mae Llywodraeth Cymru’n annog y cyhoedd i ddweud eu dweud ar ddyfodol cwricwlwm addysg Cymru.

Mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi galw ar athrawon, disgyblion, rhieni a busnesau i gymryd rhan mewn ‘Sgwrs Fawr’ am y cwricwlwm yng Nghymru.

Bydd cam cyntaf yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Gwener.

Daeth yr ymgynghoriad yn sgil cyhoeddi Adroddiad Donaldson ym mis Chwefror oedd yn cynnwys 68 o argymhellion ar gyfer cwricwlwm addysg newydd i Gymru.

Ar y pryd fe ddisgrifiodd Llywodraeth Cymru’r argymhellion fel rhai “radical”, ond cafodd yr adroddiad ei feirniadu gan y mudiad Rhieni tros Addysg Gymraeg am ddiffyg “gweledigaeth am rôl addysg Cymraeg”.

Gall pobl ddarllen cynigion yr Athro Donaldson ac ychwanegu eu sylwadau ar-lein.
Ar ôl ystyried yr holl ymatebion,  bydd Huw Lewis yna’n gwneud datganiad ffurfiol am y ffordd ymlaen.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis: “Rwy’n falch iawn fod pobl o bob cwr o Gymru wedi cyfrannu at y Sgwrs Fawr  gyda brwdfrydedd. Byddwn yn ystyried barn pawb sydd wedi cyfrannu ac yn defnyddio hyn fel sail i’n hymateb terfynol.

“Nid peth un tro yn unig yw hyn, fodd bynnag. I sicrhau ein bod yn gwneud pethau’n iawn, rhaid i bawb gyfrannu i greu ein system ysgolion newydd. Byddaf i’n parhau i ymgynghori â phartïon sydd â diddordeb i brofi a mireinio ein cynigion i sicrhau bod system ysgolion Cymru yn un arloesol a safonol.
“Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn. Hefyd, hoffwn annog unrhyw un nad yw wedi dweud ei ddweud i wneud hynny drwy fynd ar-lein a chyfrannu at y gwaith o lywio cwricwlwm Cymru at y dyfodol.”