Mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am ffrwydro bom car yn ninas Baghdad.

Cafodd o leiaf 19 o bobol eu lladd wrth i ddau fom ffrwydro yn nhalaith Karrada.

Siopwyr oedd y rhan fwyaf o bobol a gafodd eu lladd, ynghyd â phobol oedd wedi ymgasglu i nodi marwolaeth Imam Ali, un o bobol flaenllaw ffydd pobol Shiaidd.

Cafodd dau blismon eu lladd yn ogystal.