Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage wedi dweud nad yw’n ymddiried yn David Cameron i gynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd oni bai bod gan UKIP nifer o aelodau seneddol.

Dywedodd Farage fod angen dal traed Cameron “wrth y tân” er mwyn sicrhau ei fod yn cadw at ei addewid.

Ychwanegodd Farage nad oes ganddo ddiddordeb mewn clymbleidio a sicrhau swydd fel gweinidog yn San Steffan.

Ond mae’n awyddus i roi pwysau ar y llywodraeth newydd ynghylch mater yr Undeb Ewropeaidd.

Wfftiodd Farage yr alwad gan David Cameron ar aelodau UKIP i “ddod adref” i’r Ceidwadwyr, gan ychwanegu ei fod yn disgwyl i Nick Clegg ffurfio clymblaid er mwyn cael parhau’n Ddirprwy Brif Weinidog yn y cyfnod seneddol nesaf.

Dywedodd Nigel Farage wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Dydw i ddim yn hyderus o gwbl.

“Unwaith o’r blaen roedd Mr Cameron wedi addo refferendwm ac yna fe dorrodd yr addewid, gan dreulio dwy flynedd yn dweud nad oedd er lles y genedl…”

Ychwanegodd fod poblogrwydd UKIP wedi arwain at dro pedol gan David Cameron wrth iddo addo cynnal refferendwm yn y pen draw.

“Pe bai’n cynnal y refferendwm hwnnw ar ei ben ei hun, heb fod UKIP yn dal ei draed wrth y tân, yna dydw i ddim yn hyderus y byddai’n refferendwm llawn, rhydd a theg.”

Wrth drafod clymblaid posib, dywedodd Farage: “Dydw i ddim am glymbleidio ag unrhyw un, dydw i ddim am gael car gweinidog, ond fe hoffwn i yrru’r agenda.”

Dim ond UKIP all brwydro yn erbyn yr SNP yn San Steffan, meddai Farage.

Yn ogystal, fe alwodd am ddiwygio’r BBC, gan ddweud nad oes angen i’r Gorfforaeth gynnig “adloniant” fel rhan o’i arlwy.