Mae dyn 67 oed wedi cael ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl cael ei achub tra’n cerdded yn Eryri.

Cafodd y dyn o Swydd Norfolk ei drin yn Ysbyty Gwynedd am effeithiau’r oerfel ar ôl cael ei achub gan griw Achub Mynydd Ogwen.

Roedd yn un o griw oedd wedi mynd ar goll tra’n cerdded ar fynydd Pen yr Ole Wen.