Mae 25 o garcharorion Yazidi wedi cael eu saethu’n farw gan y Wladwriaeth Islamaidd mewn gwersyll yng ngogledd Irac.

Cafodd y 25 eu lladd yn nhref Tal Afar, tua 90 o filltiroedd i’r dwyrain o’r ffin â Syria.

Dydy hi ddim yn amlwg eto pam y cafodd y carcharorion eu lladd.

Mae’r 25 a gafodd eu llad yn cynnwys menywod a phobol oedrannus.

Mae lle i gredu bod hyd at 1,400 o bobol yn dal wedi’u cadw yn y gwersyll.

Roedd degau o filoedd o bobol wedi ffoi o Irac pan gipiodd y Wladwriaeth Islamaidd rym dros dref Sinjar.

Mae lle i gredu nad oedd modd i’r Wladwriaeth Islamaidd fforddio gofalu am y carcharorion yn y tymor hir, gan fod nifer sylweddol yn oedrannus ac yn sâl.