Mae daeargryn nerthol oedd yn mesur 6.8 ar y raddfa wedi taro ynys Papua New Guinea heddiw, yn ôl Arolwg Daearyddol yr Unol Daleithiau.
Does dim adroddiadau o farwolaethau na difrod mawr ar hyn o bryd.
Roedd canolbwynt y daeargryn tua 66 milltir o dref Kokopo yng ngogledd ddwyrain Papua New Guinea.
Mae risg o sŵnami wedi lleihau yn ôl Canolfan Rybudd Swnami y Môr Tawel.
Yn Nepal, mae adroddiadau bod o leia’ 6,000 o bobol wedi marw a 13,000 wedi’u hanafu ar ôl y daeargryn gwaethaf i daro’r ardal ers 80 mlynedd.