Jimmy Savile
Mae adroddiad y Fonesig Janet Smith ar sut wnaeth Jimmy Savile a Stuart Hall allu cam-drin plant a phobl ifanc am ddegawdau yn y BBC wedi cael ei ohirio ar gais Heddlu Llundain.

Roedd yr adroddiad, sy’n dilyn cyfweld 375 o dystion mewn cysylltiad â Savile a mwy na 100 mewn cysylltiad â Stuart Hall, i fod i gael ei gyhoeddi’r mis hwn.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw dywedodd yr awduron eu bod nhw wedi gorffen yr adroddiad.

“Fodd bynnag, mae Heddlu’r Metropolitan wedi dweud wrth yr adolygiad ei fod yn pryderu y gall cyhoeddi’r adroddiad nawr niweidio ei ymchwiliadau parhaus i gam-drin.”

O ganlyniad, mae’r Fonesig Janet wedi penderfynu oedi cyn cyhoeddi’r adroddiad.

Mae’r ymchwiliad wedi bod “mewn cysylltiad” â 775 o bobl ac mae disgwyl y yn datgelu diwylliant o anwybodaeth yn y BBC oedd yn “gwarchod” Jimmy Savile.

Roedd adroddiad arall, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, yn dweud nad oedd ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd dal heb ddysgu gwersi yn sgîl sgandal Jimmy Savile.