Mae David Cameron wedi cynnig rhoi rhagor o adnoddau o Brydain i gefnogi’r ymgyrch chwilio ac achub ym Mor y Canoldir wrth iddo fynychu cyfarfod brys ym Mrwsel i drafod yr argyfwng ffoaduriaid.

Dywedodd y Prif weinidog y byddai’n defnyddio’r uwchgynhadledd ym Mrwsel i bwyso am “ymdrech gynhwysfawr” i fynd i’r afael a’r broblem.

Credir bod mwy na 1,700 o geiswyr lloches wedi marw ym Mor y Canoldir ers dechrau’r flwyddyn wrth iddyn nhw geisio teithio i Ewrop.

Mae David Cameron wedi cydnabod bod yn rhaid ehangu’r gwasanaethau chwilio ac achub ar ol iddyn nhw gael eu tynhau’n sylweddol y llynedd yn y gobaith y byddai’n atal pobl rhag ceisio gwneud y daith.

Bydd David Cameron yn dweud wrth arweinwyr eraill yr UE fod yn rhaid i’r ymgais i achub ffoaduriaid fod yn rhan o becyn o fesurau i dargedu’r rhai sy’n masnachu pobl, a thaclo ansefydlogrwydd yn y dwyrain canol a gogledd Affrica.