Nick Clegg
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi cyhoeddi pecyn i gefnogi gofalwyr yng Nghymru.
O dan arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’n dweud y byddai gofalwyr yn derbyn:
- Bonws o £250 i ysgafnhau’r gost o ofalu am rywun sydd angen dros 35 awr o ofal yr wythnos;
- Pum diwrnod o wyliau yn ychwanegol;
- Y cyfle i wneud mwy o waith heb golli eu Lwfans Gofalwyr, trwy ymestyn y swm y gall rhywun ennill bob wythnos o £110 i £150.
Byddai’r arian yn dod o drethi newydd ar gwmniau tybaco yn ôl yr arweinydd.
‘Arwyr cudd’
Cyn lansio’r pecyn newydd ym Mannau Brycheiniog, dywedodd Nick Clegg: “Ar hyn o bryd mae un o bob wyth oedolyn yn darparu gofal i aelod o’u teulu sy’n hyn, anabl neu’n ddifrifol wael.
“Nhw yw arwyr cudd Prydain sydd ddim yn gofyn am ddiolch am eu caredigrwydd – ond mae angen gwneud mwy i’w cefnogi.
“Bydd y pecyn newydd hwn yn sicrhau bod gofalwyr yn delio a llai o bwysau ac yn medru byw bywydau mwy hapus a llawn.”
Mae’r blaid eisoes wedi cyhoeddi y byddai’n rhoi £8 biliwn yn ychwanegol i Wasanaeth Iechyd Lloegr, gan olygu dros £450m yn ychwanegol i GIG Cymru.