Tabledi ecstasi
Mae cannoedd o blant ysgol mor ifanc ag wyth oed wedi cael eu dal gyda chyffuriau Dosbarth A ar dir ysgol, yn ôl ffigyrau newydd gan yr heddlu.

Cafodd 92 achos ei gofnodi gan Heddlu De Cymru dros y pedair blynedd ddiwetha’.

Mae athrawon wedi dweud eu bod yn pryderu ynglŷn â’r ffigyrau ond ei fod yn brawf o’r hyn mae plant yn gorfod ei wynebu ar y strydoedd.

Cafodd y wybodaeth ei gyhoeddi gan wefan y Press Association yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth.

Y ffigyrau

Canabis oedd y cyffur mwyaf poblogaidd ymysg y 407 o achosion gafodd eu cofnodi ar ddiwedd 2014.

Cafodd cocên ei ddarganfod mewn 27 achos mewn ysgolion ledled Cymru a Lloegr ac  roedd y cyffuriau eraill yn cynnwys LSD, amffetamin, MDMA ac ecstasi.

Roedd dau achos o feddiannu heroin ar dir ysgol yn Surrey a Manceinion, yn ôl yr heddlu.

Mae’r ffigyrau wedi dangos gostyngiad ers 2011/12 pan gafodd 657 o achosion eu cofnodi.

Dangoswyd hefyd bod rhai rhieni a gweithwyr ysgol ymysg y rhaid gafodd eu dal hefo cyffuriau yn eu meddiant ar dir ysgolion a cholegau.