Carwyn Jones
Bydd buddsoddiad gwerth £144 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn cael ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw.

Mae disgwyl i’r cyllid gyflogi 52,000 o brentisiaid 16-24 oed yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd dros y pedair blynedd nesa’.

Bydd pwyslais ar feysydd fel adeiladu, peirianneg, Technoleg Gwybodaeth a manwerthu a bydd gan bob ymgeisydd gyfle i ennill cymwysterau wrth weithio, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd Carwyn Jones yn gwneud y cyhoeddiad yn Fforwm Cymru ar Ewrop yng Nghaerdydd heddiw ac mae disgwyl i fwy o gyllid ar gyfer prentisiaethau ddod ar gael yn yr wythnosau nesa’.

“Mae’r cyllid hwn ar gyfer gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn newyddion gwych ac yn arddangos ein hymrwymiad ni i hybu economi Cymru,” meddai’r Prif Weinidog.

Ychwanegodd y Gweinidog Busnes Jane Hutt: “Fe fydd dros £2 biliwn o gyllid gan yr UE yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru dros y bum mlynedd nesa’ i gefnogi twf economaidd cynaliadwy a swyddi.”