Carwyn Scott-Howell
ydd cwest i farwolaeth bachgen saith oed fu farw ar wyliau sgïo gyda’i deulu yn Ffrainc yn cael ei agor a’i ohirio heddiw.
Fe ddisgynnodd Carwyn Scott-Howell o Dalybont-ar-Wysg ger Aberhonddu i’w farwolaeth tra roedd ar wyliau ym mhentref Flaine yn yr Alpau.
Ar ddechrau’r wythnos, fe gyhoeddwyd bod ymchwiliad wedi dweud nad oedd e wedi marw o ganlyniad i esgeulustod.
Yn ôl yr erlynydd, ‘damwain drasig’ oedd ei farwolaeth.