Mae adroddiadau bod Mwslemiaid wedi taflu deuddeg Cristion i’r môr wrth i gwch geisio croesi o Affrica i’r Eidal.

Dywedodd heddlu Palermo eu bod wedi arestio 15 person ar amheuaeth o ddynladdiad ddoe – wedi iddyn nhw gael gwybod am yr ymosodiadau wrth gyfweld teithwyr o Nigeria a Ghana oedd ar y cwch.

Mae’r rhai wnaeth oroesi’r daith yn dweud eu bod wedi gadael Libya ar gwch rwber ar 14 Ebrill gyda thua 105 o deithwyr ac yn honni bod Mwslemiaid o Senegal, Mali a Guinea Bissau wedi bygwth taflu Cristnogion dros yr ochr.

Fe ddaeth i’r amlwg yr wythnos hon nad yw gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn medru delio’r â’r niferoedd uchel o ffoaduriaid sy’n croesi Môr y Canoldir a bod tua 10,000 o fewnfudwyr wedi ceisio cael mynediad i’r Undeb Ewropeaidd yn yr wythnos ddiwetha’.