Dilwyn Roberts-Young (o wefan yr undeb)
Mae undeb yn dweud bod athrawon sydd â phroblemau iechyd neu anabledd yn ofni trafod eu cyflwr am nad yw byd addysg yn cael ei weld yn addas ar eu cyfer.

Dyw’r proffesiwn ddim yn cyflwyno “amrywiaeth o ran modelau rôl” i ddisgyblion, yn ôl Dilwyn Roberts-Young sy’n Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC ac Ysgrifennydd Adran Cydraddoldeb yr undeb.

Ac mae’n dangos, meddai, nad yw’r cyflogwyr yn cyflawni eu dyletswyddau gofal tuag at athrawon o’r fath,

Fe fydd cynhadledd yr undeb yn trafod cynnig heddiw i alw am fwy o gefnogaeth i athrawon sydd ag anableddau.

Diffyg cefnogaeth

Mae’r diffyg cefnogaeth wedi rhoi pwysau ar athrawon i wadu bod ganddyn nhw anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir, gan greu “sefyllfa heriol” yn y gweithle,” meddai Dilwyn Roberts-Young.

Bydd y mater yn cael ei drafod gan UCAC yn ei gynhadledd fynyddodd yn Llandrindod heddiw ac fe fydd aelodau yn galw am fwy o gefnogaeth i athrawon anabl.

Yn ôl ystadegau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn 2014, dim ond 0.2% o athrawon cofrestredig sydd wedi datgan bod ganddyn nhw anableddau.

Yn ôl Dilwyn Roberts-Young, mae hynny’n awgrymu “posibilrwydd cryf” bod pobol yn ofni siarad am iechyd ac anableddau neu nad yw’r proffesiwn “yn cael ei weld yn un addas ar gyfer unigolion sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd tymor hir”.