Milwyr yr Wcrain
Mae’r brwydro yn nwyrain yr Wcráin wedi ailgychwyn wedi bron i fis o seibiant – wrth i ddiplomyddion gwrdd ym Merlin i drafod yr argyfwng yn y wlad.
Mae dros 6,000 o bobol wedi cael eu lladd ers cychwyn yr anghydfod rhwng gwrthryfelwyr Rwsia a Llywodraeth yr Wcráin ond roedd y sefyllfa wedi tawelu ers i gadoediad gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror.
Fodd bynnag, fe ddywedodd swyddogion o Sefydliad Diogelwch Ewrop bod ergydion trwm wedi eu clywed y tu allan i bentref Shyrokyne a sŵn gynnau yng nghanol Donetsk.
Daw wrth i swyddogion polisi o Rwsia, yr Wcráin, Ffrainc a’r Almaen gwrdd i drafod yr anghydfod.
Mae Asiantaeth Newyddion Donetsk yn adrodd bod tair gwaith yn fwy o bobol wedi cael eu lladd dros y penwythnos o’i gymharu â’r wythnosau diwethaf.