Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Ni ddylai’r Ardd Fotaneg dderbyn arian cyhoeddus tra ei bod yn torri ei chynllun iaith – dyna alwad ymgyrchwyr iaith mewn llythyr at Carwyn Jones ac Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn rhanbarth Caerfyrddin wedi beirniadu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne am dorri ei chynllun iaith drwy godi arwydd uniaith Saesneg ar ochr yr M4 ac anfon gohebiaeth Saesneg i gwsmeriaid.
Mae’r Gerddi wedi ymateb trwy ddweud mai at ddiben twristiaeth oedd yr arwyddion Saesneg.

Ond yn y llythyr dywedodd llefarydd o Gymdeithas yr Iaith:  “Fel sefydliad cenedlaethol sy’n derbyn arian cyhoeddus a chefnogaeth sylweddol gan yr awdurdod lleol a llywodraeth ganolog mae’n sefyll i reswm y dylai fod gwasanaeth Cymraeg llawn ar gael.

Pan fo’ch ymateb fel sefydliad i gwynion gan y cyhoedd ynghylch diffygion yn ymylu ar haerllugrwydd, mae’n codi cwestiynau mawr am agwedd y sefydliad cyfan at y Gymraeg, ac at broffesiynoldeb rhai o’ch staff.”

Cwyn

Daw’r ymateb wedi i Iola Wyn o Sanclêr dynnu sylw at arwydd uniaith Saesneg oedd wedi ei godi ar yr M4 a chysylltu hefo’r Ardd am esboniad.

Cafodd ymateb a ddywedodd: “Rydym yn flin nad ydych yn hapus gyda’n hymdrechion i ddenu ymwelwyr newydd i’r Ardd. Er mwyn eich arbed rhag unrhyw anghyfleustra pellach, rwy’n fodlon tynnu eich enw o’n rhestr dosbarthu.”

Haerllug

Yn y  llythyr mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud: “Mae ymateb swyddogion yr Ardd wedi bod yn gwbl annerbyniol, gan ymylu ar fod yn haerllug.

“Rydym yn deall [eich bod] yn rhoi arian sylweddol i’r Ardd Fotaneg bob blwyddyn. Galwn arnoch i atal yr arian cyhoeddus sy’n cael ei roi gan y Cyngor i’r Ardd Fotaneg tan eu bod yn dangos parch dyledus i’r Gymraeg. Fel arweinydd Cyngor mewn ardal lle mae’r Gymraeg yn wynebu’r fath argyfwng rwy’n siŵr y byddwch am weithredu ar y mater hwn ar fyrder.”

Sefydliad Cenedlaethol

Ychwanegodd Manon Elin ar ran y mudiad: “Mae arwyddion newydd uniaith Saesneg wedi eu codi dros y penwythnos felly pam ddylai pobol Cymru dalu am Ardd Fotaneg Genedlaethol sydd mor amharchus ei hagwedd tuag at y Gymraeg?

“Yn fwy na thorri ei chynllun iaith, cawn yr argraff fod yr Ardd Fotaneg yn credu bod ymwelwyr o Loegr yn bwysicach nag ymwelwyr o Gymru. Mae nifer o bobl, yn y sir ac yng Nghymru yn ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru bob blwyddyn – a gan fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yma yng Nghymru, da o beth fyddai i’n sefydliadau cenedlaethol adlewyrchu hynny – i bobl o Gymru a thu hwnt.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i’r Ardd Fotaneg am ymateb.