Mae disgwyl i Gyngor Sir Gaerfyrddin gyfarfod heddiw i benderfynu ar ddyfodol monitro camerâu diogelwch (CCTV) ar draws y sir.
Fis diwethaf, fe wnaeth y cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn penderfyniad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys i stopio darparu cyllid ar gyfer y gwasanaeth.
Daeth penderfyniad y Comisiynydd ar ôl i adolygiad annibynnol honni nad oedd llawer o dystiolaeth fod y camerâu yn rhwystro troseddau treisgar neu rhai sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Ar hyn o bryd, mae bron i 90 o gamerâu diogelwch yn cael eu monitro gan Heddlu Dyfed Powys yn Rhydaman, Caerfyrddin, Llanelli a Phorth Tywyn.
Yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin, gall stopio’r gwasanaeth monitro arbed tua £100,000.