Llys y Goron Southwark
Fe fydd dyn yn cael ei ddedfrydu heddiw am ladrad “ffiaidd” lle cafodd Cymro 93 oed ei wthio i’r llawr ger ei gartref.

Roedd Stanley Evans, sy’n wreiddiol o Aberteifi, yn sefyll yn y fynedfa mewn bloc o fflatiau yn Soho yng nghanol Llundain pan wnaeth Soloman Bygraves, 29, ymosod arno a dwyn ei waled ar 31 Ionawr.

Fe fu’n gorwedd yno ar ei ben ei hun am tua phum munud cyn medru galw 999.

Roedd Stanley Evans wedi dioddef o anaf i’w ysgwydd yn dilyn y digwyddiad.

‘Methu maddau’

Fe blediodd Soloman Bygraves yn euog i’r drosedd trwy gyswllt fideo mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Southwark.

“Mae’n haeddu mynd i’r carchar am ymosod ar berson hŷn fel fi. Doeddwn i ddim yn gallu amddiffyn fy hun ac fe wnaeth e gymryd mantais o hynny,” meddai Stanley Evans wrth y wasg.

“Dw i ddim yn gwybod beth yw ei gefndir, ond alla’ i ddim maddau iddo am ymosod ar berson hŷn.”