Stephen Doughty
Mae’r blaid Lafur yng Nghymru wedi ymosod ar y Ceidwadwyr yng Nghymru trwy honni bod traean o’u hymgeiswyr yn byw yn Lloegr.
Mae 12 o’r ymgeiswyr Ceidwadol sy’n ymgyrchu mewn rhanbarthau deheuol fel Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili yn byw cyn belled â Chaint a Berkshire yn ôl yr AS Stephen Doughty, sydd wedi dweud bod y sefyllfa yn “gywilyddus”.
Ychwanegodd yr AS bod hyn yn brawf bod y Ceidwadwyr “wedi troi cefn ar Gymru”.
Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â’r blaid Geidwadol am ymateb.
Eironi
“Heb owns o eironi, mae’r Ceidwadwyr wedi ceisio honni mai nhw yw gwir blaid Cymru. Mae’n glir nawr nad yw’r blaid wedi medru cael ymgyrchwyr lleol da a’u bod wedi gorfod dibynnu ar bobol sy’n byw cyn belled â Chaint, Berkshire a Chaerlŷr i godi rhifau,” meddai AS de Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty.
“Mae bron i draean o ymgeiswyr Ceidwadol yn byw yn Lloegr ac mae hynny’n gywilyddus. Mae David Cameron yn gwawdio Cymru yn rheolaidd ac fe fydd yn cael ei gofio am amser hir am ei ddisgrifiad ffiaidd o Glawdd Offa fel ffin rhwng byw a marw.
“Mae record y Torïaid yng Nghymru yn warthus a dyna pam nad ydyn nhw’n medru trafod yr hyn maen nhw wedi ei wneud yng Nghymru a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.”
Dyma restr o’r ymgeiswyr y mae’r blaid Lafur yn honni sydd ddim yn byw yng Nghymru:
Pen-y-bont ar Ogwr: Meirion Jenkins, Sutton Coldfield
Aberogwr: Jane March, Tunbridge Wells
De Caerdydd a Phenarth: Emma Jane Warman, Reading West
Caerffili: Leo Docherty, Wantage
Merthyr Tudful a’r Rhymni: Bill Rees, Banbury
Canol Caerdydd: Richard Hopkin, Holborn & St Pancras
Gorllewin Caerdydd: James Taghdissian, Exeter
Llanelli: Selanie Saxby, De orllewin Wiltshire
Gorllewin Abertawe: Emma Lane, New Forest West
Pontypridd: Anne Marie Mason, De Bryste
Castell Nedd: Ed Handre, Tunbridge Wells
Aberafan: Edward Yi He, dwyrain Caerlŷr