Y Gwasanaeth Iechyd a gofal plant sy'n cael sylw heddiw
Wrth i’r ymgyrchu etholiadol boethi, fe fydd y pleidiau yng Nghymru yn rhoi sylw arbennig i’r Gwasanaeth Iechyd a gofal plant heddiw ac yn paratoi at gyhoeddi eu maniffestos yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr yng Nghymru gyhoeddi cynlluniau i ariannu’r gwasanaeth iechyd a bwriad i gyflwyno cronfa i dalu am gyffuriau canser.

Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams yn ymweld ag etholaethau targed yn y canolbarth gan addo gwella gofal iechyd yng nghefn gwlad a buddsoddi mewn ysbytai cymunedol.

Ers cyhoeddi ei maniffesto ym mis Mawrth, bydd Plaid Cymru yn cyhuddo’r pleidiau eraill o esgeuluso’r economi yng ngogledd Cymru.

Fe fydd y blaid Lafur yn dweud bod ganddyn nhw record o ran maint y buddsoddiad mewn gofal plant gan ei gymharu gydag agwedd y Ceidwadwyr yn Lloegr, ac fe fydd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, yn ymgyrchu ym Maesyfed a Sir Frycheiniog.

Cefnogaeth

Cyn cyhoeddi maniffesto’r blaid Lafur, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Dros y pum mlynedd ddiwetha’ rydym wedi dangos y gwahaniaeth gall llywodraeth Lafur ei wneud i fywydau pobol. Wrth warchod Cymru rhag toriadau llym y Ceidwadwyr, rydym wedi rhoi cefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

“Mae ein maniffesto yn symud Cymru ymlaen at setliad mwy parhaol ar ddatganoli.”

Ond mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi beio’r blaid Lafur am dorri cyllid cynghorau yng ngogledd Cymru gan ddweud ei bod yn hen bryd i’r gogledd gael yr un chwarae teg a Chaerdydd a Llundain.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies wedi beirniadu record y blaid Lafur a dweud y byddai ei blaid yn gwneud camgymeriad petai’n osgoi’r prif destun siarad ar lawr gwlad, hyd yn oed os ydi iechyd wedi ei ddatganoli.

“Ni all y blaid Lafur yng Nghymru guddio o’i record ar iechyd yn yr etholiad yma”, meddai.