Hillary Clinton
Mae Hillary Clinton wedi cyhoeddi ei bod hi’n bwriadu ymuno a’r ras i ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 2016.

Fe gollodd hi’r ras i fod yn ymgeisydd y Democratiaid yn yr etholiad yn 2008 pan ddaeth Barack Obama yn arweinydd ei wlad.

Ond nid oedd son am hynny, na’r pedair blynedd mae hi wedi ei dreulio fel Ysgrifennydd Gwladol, yn neges gyntaf ei hymgyrch etholiadol. Roedd y fideo yn cynnwys criw o bobol yn siarad am eu bywydau, eu cynlluniau a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

“Mae Americanwyr wedi brwydro trwy amseroedd economaidd anodd. Ond mae’r system yn parhau i ffafrio’r rhai sydd ar y brig. Mae Americanwyr cyffredinol angen rhywun i’w cefnogi, ac rwyf i eisiau bod yn arweinydd sy’n gwneud hynny,” meddai.

Mae’r gwleidydd 67 oed, a gwraig y cyn Arlywydd Bill Clinton, yn bwriadu ymgyrchu yn Iowa a New Hampshire er mwyn ceisio ennyn cefnogaeth pleidleiswyr, gan gyflwyno ei haraith gyntaf ym mis Mai.