Cynyddu mae’r pryderon am ddioglewch dynes 37 oed o Gaerdydd sydd ar goll yn dilyn damwain cwch pleser yn ne ddwyrain Asia.

Mae Johanna Powell, sy’n gweithio fel golygydd lluniau i BBC Cymru, wedi bod ar goll ers dydd Sadwrn.

Mae’n debyg bod y cwch wedi taro yn erbyn craig yn afon Mekong ger Pak Beng yn Laos, a suddo’n gyflym.

Roedd Johanna Powell yn teithio ar y cwch gyda thri o’i chyfeillion.

Nid yw timau achub wedi llwyddo i ddod o hyd iddi hyd yn hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn cydweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol ac yn rhoi cymorth consylaidd i’r teulu.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Rydym yn bryderus iawn am ein cydweithiwr sydd ar goll ac mewn cysylltiad gyda’i theulu i gynnig unrhyw gymorth y gallwn ni.”