Ed Miliband
Fe fydd Ed Miliband yn rhoi addewid heddiw i ostwng y diffyg ariannol bob blwyddyn nes eu bod yn y du wrth i’r Blaid Lafur barhau gyda’i hymgyrch etholiadol.

Bydd arweinydd y blaid yn lansio ei maniffesto ym Manceinion heddiw gan ddweud y byddai’n cynnig gwlad decach “sy’n gweithio i bobl sy’n gweithio.”

Yn y cyfamser fe fydd Ukip yn addo rhoi cyfle i bleidleiswyr ddylanwadau ar ddeddfwriaeth y llywodraeth yn uniongyrchol.

O dan gynlluniau’r blaid fe fydd refferendwm yn cael ei gynnal bob dwy flynedd i benderfynu ar y ddeddfwriaeth fwyaf poblogaidd gyda’r canlyniad yn cael ei gynnwys yn Araith y Frenhines.

Mae’n rhan o gyfres o ddiwygiadau cyfansoddiadol sy’n cael eu cynnig heddiw gan arweinydd y blaid Nigel Farage ac AS Ukip Douglas Carswell.

O dan gynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol fe fyddai’n rhaid i gwmnïau ynni ganiatáu i gwsmeriaid newid i gwmni arall o fewn 24 awr.

Mae’r blaid yn dweud bod y cynnig – un o gyfres o fesurau i helpu cwsmeriaid a theithwyr – yn arbed tua £200 y flwyddyn i gwsmeriaid.