Ysbyty Glan Clwyd
Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gyhoeddi heddiw eu bod am israddio’r uned famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan mewn ychydig dros wythnos.
O ganlyniad i broblemau staffio, cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd ym mis Chwefror y bydd mamau sy’n cael trafferthion wrth roi genedigaeth yn cael eu trosglwyddo i naill ai Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam.
Yn sgil y cynlluniau, bydwragedd fyddai’n arwain yr uned famolaeth am gyfnod o hyd at 18 mis.
Er nad yw’r bwrdd iechyd wedi cadarnhau, mae’r BBC yn honni eu bod wedi gweld e-bost gafodd ei anfon at nifer o staff Betsi Cadwaladr sy’n dweud mai’r bwriad yw israddio’r uned ar 21 Ebrill.
Cefndir
Cafodd cynlluniau’r bwrdd iechyd i israddio’r uned famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd dros dro eu beirniadu’n hallt gan wleidyddion lleol ac arbenigwyr iechyd gyda thua 15,000 o bobol yn ymuno a thudalen Facebook yn galw am ail-ystyried y penderfyniad.
Roedd yr ymgyrchwyr wedi dyfeisio cynllun gwahanol i’r un gafodd ei gyflwyno gan Betsi Cadwaladr, er mwyn ceisio cadw’r gwasanaethau yn yr ysbyty ym Modelwyddan.
Ond yn dilyn cyfnod ymgynghori, mae’n ymddangos mai’r bwriad yw glynu at y cynllun gwreiddiol.